Dydd Mawrth, Ionawr 13 2015
Annwyl Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Ysgrifennwn atoch parthed cynnwys Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru. Ein cred yw, bod yn rhaidcreu trefn cynllunio sy'n ateb anghenion Cymru – gan gynnwys daclo tlodi, diogelu ein hamgylchedd, a chryfhau ein hiaith gynhenid; sef y Gymraeg.
Bregus tu hwnt yw sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol erbyn hyn, felly mae’n rhaid i chi alluogi ein cynghorwyr i ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail effaith iaith.
Nid oes modd datrys hyn heb ddeddfwriaeth. Pe collir y cyfle hanesyddol hwn i sicrhau bod y drefn gynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, byddai'n peryglu ein gallu i gryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau am genhedlaeth a mwy. Buasai hynny yn difrodi’r Gymraeg am byth yn rhai mannau – felly buasai diffyg ymdrech ar eich rhan chi yn awr yn galw brain angau at frwydr yr iaith, mi ofnwn.
Rhaid felly ystyried a ydych yn wirioneddol barod i daro’r ergyd farwol i’r iaith mewn cymunedau sy’n dal i fod yn gymunedau sy’n cynnal y Gymraeg ar hyn o bryd.
Rhaid yw, cynllunio ar sail y gymuned ac nid ar sail anghenion datblygwyr masnachol di-enaid ac mae’n rhaid i benderfyniadau cynllunio y dyfodol bod o fudd i’r economi leol drwy ystyried yr anghenion lleol. Er mwyn dyn, defnyddiwch ddeunyddiau cynaliadwy lleol er mwyn cryfhau’r strwythurau cynhyrchu a chyflenwi dros bob cwr o Gymru ac i gryfhau’r economi leol.
Pryderwn sut mae'r Bil yn cynnig canoli grym yng Nghaerdydd; credwn y dylai fod gan gynghorau'r rhyddid i bennu targedau tai yn annibynnol o'r Llywodraeth yn ganolog.
Eto, mae rhaid i fframwaith y Bil ddatganoli'r grym hwnnw yn ogystal â chreu proses newydd sy'n ein harwain a'n cynorthwyo i asesu'r angen lleol hynny mewn ffordd drwyadl.
Cytunwn felly gyda chyngor eich pwyllgor arbenigol: mae wir angen system gynllunio sy’n diogelu ein hamgylchedd, mynd i'r afael â thlodi, a chryfhau’r Gymraeg fel rhan anatod o’i bwrpas statudol.
Yr eiddoch yn gywir,
Tamsin Davies
Ysg. Cynghrair Cymunedau Cymraeg